Cyfieithu ar y Pryd

Profiad Helaeth
Mae gan aelodau ein tîm brofiad helaeth o gyfieithu ar y pryd i gwsmeriaid amrywiol iawn gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, ysgolion a cholegau addysg, cyrff llywodraethol, mudiadau gwirfoddol, ymddiriedolaethau iechyd, cwmnïau teledu a chwmnïau masnachol o bob math.

Pob math o gyfarfodydd
Defnyddiwn offer cyfieithu is-goch Cyflais 3, a gallwn ddarparu gwasanaeth mewn pob math o gyfarfodydd. Beth bynnag yw eich gofynion - cyfarfod pwyllgor bach neu gynhadledd fawr - gallwn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r ansawdd gorau i chi.

Felly os ydych am wasanaeth cyfieithu ar y pryd dibynadwy a safonol cysylltwch â ni.

Manylion Cyswllt Cyfieithu ar y pryd

e-bost: arwel@a-pedwar.co.uk

Ffôn: 01286 831691



| Mwy