Golygu a Gloywi

Mae a-pedwar yn arbenigo mewn golygu dogfennau, cywiro teipysgrifau a phrawf ddarllen yn Gymraeg a Saesneg. Os oes gennych adroddiad, dogfen, gwefan, cylchlythyrau neu ohebiaeth sydd angen eu golygu/prawf ddarllen yn yr iaith wreiddiol, gallwn wneud hynny gan roi sylw manwl i gywirdeb iaith, geirfa, arddull, cywair a gosodiad.  

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth paratoi copi, sy’n cynnwys ysgrifennu testun gorffenedig o nodiadau neu frîff i bwrpas marchnata, ar gyfer y wasg (e.e. datganiadau) neu ar gyfer cysylltu â’ch cleientiaid (e.e. Adroddiad Blynyddol).  Gallwn ddod atoch i’ch swyddfa i gydweithio ar brosiect fel hyn.

Arbenigedd arall gennym yw gwasanaeth caboli,  sef ystwytho iaith a mynegiant testun penodol (e.e. llythyr, crynodeb neu Ragair) fel ei fod yn darllen yn rhwydd ac yn glir a’r neges yn taro deuddeg. 

 

 

| Mwy