Cyfieithu Ysgrifenedig

Nod y cwmni yw cynnig gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig i chi sydd

> yn gost-effeithiol. Rydym yn cynnig gwasanaeth o safon am bris rhesymol.

> yn gywir. Mae gennym brofiad helaeth o gyfieithu, golygu a phrawf ddarllen dogfennau mewn sawl maes: addysg; llywodraeth leol; cynllunio; iechyd a gofal; twristiaeth; yr amgylchedd; y celfyddydau; diwydiant a busnes; tai a gwaith cymdeithasol.

Rydym felly yn gwarantu:

• cywirdeb y cyfieithiad
• cysondeb o ran arddull a therminoleg, gan barchu unrhyw ofynion gan y cleient o safbwynt defnyddio geirfa neu dermau neilltuol.

> yn gyflym. Oherwydd ein profiad helaeth a’n dulliau gweithio trefnus a diwastraff gallwn gwblhau gwaith yn gyflym ac o fewn terfynau amser caeth.

• Fel rheol, gallwn ddychwelyd dogfennau hyd at fil o eiriau o fewn 24 awr.
• Fel rheol, gallwn ddychwelyd dogfennau hyd at 15 mil o eiriau o fewn 7 diwrnod.

| Mwy